Fe gyhoeddwyd yr erthygl canlynol yn 'Yr Herald', Dydd Sadwrn, Rhagfyr 11, 1999

Mae'r mwyafrif ohonom wedi cael bocs hud yn anrheg Nadolig neu benblwydd rhywbryd yn ystod ein plentyndod ac yn cofio chwifio'r wialen hud gan adrodd y geiriau Abracadabra!

Ond ychydig iawn ohonom a ddeallodd sut i gyflawni dewiniaeth go iawn gyda'r bocs bach hud yna!

Un sydd wedi meistrioli'r gelfyddyd, a hynny drwy ddechrau gyda'i focs hud cyntaf pan yn blentyn chwe mlwydd oed, yw Paul Edwards, darlithydd Cyfrifiadureg yng Ngholeg Menai.

Y tu allan i'r ystafell ddosbarth consuriwr yw Paul ond does yna'r un wialen hud na chwningen yn agos i'w driciau!

Fel y gwyr rhai hynny a'i gwelodd ar y rhaglen Heno ar S4C yn ddiweddar mae Paul, sy'n hanu o'r Bala, ond bellach yn byw yng Nhynygongl ar Ynys Mon, yn arbenigo mewn 'Hud Agos' (Close Up Magic), gan ddefnyddio cardiau, ceiniogau a bocsys bach yn bennaf.

Mae Paul yn aelod o Gylch Hud Gogledd Cymru a'r IBM (International Brotherhood of Magicians) a rhai wythnosau yn ol ennillodd wobr Consuriwr Hud Agos y Flwyddyn yng nghystadleuaeth flynyddol Cylch Hud Gogledd Cymru yn Rhyl. Dyma'r ail dro iddo ennill y wobr hon.

Ar ol iddo raddio mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Morgannwg a chyn iddo ymuno a staff Coleg Menai, bu'n gweithio ledled Prydain fel consuriwr proffesiynol mewn gwestai a chynhadleddau dros flwyddyn a hanner.

"Mi ddysgais fwy am hud trwy ddarllen llyfrau a gwylio rhaglenni ar y teledu. Mae na fwy o lyfrau wedi cael eu hysgrifennu am hud nag unrhyw gelfyddyd perfformio arall!" meddai.

"Dwi'n dysgu triciau newydd drwy'r amser. Does na byth adeg lle nad oes gen i bac o gardiau wrth law a dwi'n ymarfer bob cyfle sbar sydd gen i!"

Ac yntau yn briod a Nia ac yn dad i ferch ddwy oed, Catrin Glyn, mae Paul eisioes wedi dechrau ymarfer ei driciau ar Catrin! "Mae'n bwysig iawn i ymarfer a datblygu triciau newydd yn gyson acos unwaith mae rhywun yn dechrau myn allan o'r arfer, mae'n anodd iawn ailafael ynddi, ac mae'n rhaid cael rhywun i ymarfer fy nhriciau arnyn nhw er mwyn gweld beth sy'n gweithio a beth sydd ddim!" meddai.

Ond y cwestiwn y mae pawb yn ysu i'w ofyn iddo yw - beth yw ei gyfrinachau? "Dwi'n datgelu dim byd i neb!" meddai Paul gan chwerthin.

  Os oes genddych chi - neu rhywun rydych yn ei nabod wir diddordeb mewn Hud. Cliciwch ar y linc gyferbyn er mwyn chwilio am lyfrau o Amazon - mae na lot o rai Hud yno!


'