|
Dyweder Paul "mae o'n bleser ac yn fraint
cael fy ethol yn Arlywydd gan fy nghyd ddewiniaid o'r Cylch Hud.
Mae hud unwaith eto yn hynod o boblogaidd gyda'r cyhoedd, a gobeithio
allaf fanteisio ar hyn er mwyn denu aelodau newydd I'r Cylch yn
ystod fy mlwyddyn fel Arlywydd'.
Mae hi'n amser prysur I Paul ar hyn o bryd,
mae o newydd gwblhau cyfres byr o 5 rhaglen 5 munud, o'r enw 'Hud
Stryd' I gwmni Antena I'w ddangos ar S4C yn ystod y Dolig. Hefyd,
mae wedi bod yn ffilmio a cymryd rhan mewn rhaglen ddogfen gan gwmni
Boomerang ynglun a Cylchoedd Hud - a'r Cylch Hud Gogledd Cymru'n
benodol - a fydd yn cael ei ddangos ar S4C yn y flwyddyn newydd.
Y tric mwyaf I Paul fodd bynnag yw'r ffordd
mae'n gallu juglo'I ddyletswyddau a'I gyfrifoldebau I gyd - ei swydd
llawn amser yw Rheolwr E-Ddysgu yng Ngholeg Menai, Bangor, ac mae
hefyd yn dad I 2 o blant ifanc - Catrin a Bedwyr. Sut mae o'n ei
wneud o I gyd 'mae'n gyfrinach!' atebodd Paul yn sydyn.
|